Berf a Berfenw

Y tro hwn edrychir yn fras ar yr hyn yw berf a’r hyn yw berfenw. Y pwynt pwysicaf yw bod gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddau, ac mai buddiol a gwerthfawr yw medru deall y gwahaniaeth. Y mae geirfa ar ddiwedd y wers sydd yn rhestru’r termau gramadegol sy’n cael eu defnyddio.

Edrychwn ar ddwy frawddeg gymharol syml:

1. Yfodd y cathod laeth.

2. Mae’r cathod yn yfed llaeth.

Yn y rhan fwyaf o frawddegau (ond nid pob un), bydd berf. Fel mae’n digwydd, mae berf yn y ddwy frawddeg uchod. Y cwestiwn, felly, yw pa un o’r geiriau ydyw’r ferf. Edrychwn ar frawddeg (1) i ddechrau.

Rheol ynghylch yr iaith Gymraeg fel y mae hi heddiw yw bod y ferf fel arfer (ond nid bob tro) yn dod gyntaf yn y frawddeg. Y mae hyn yn nodwedd sy’n cael ei rhannu â’r ieithoedd Celtaidd eraill, ac mae’n golygu bod cystrawen (h.y. trefn geiriau) y Gymraeg yn wahanol iawn i’r Saesneg. Ystyriwn:

The cats drank milk.

Yfodd y cathod laeth.

D’ól na cait bainne.

Yn Saesneg, gwelir bod y ferf yn dod yn ail yn y frawddeg, ac elfen arall (‘the cats’) yn ei rhagflaenu. Yn y Wyddeleg, mae trefn y geiriau (os nad y geiriau eu hunain!) yr un fath ag yn achos y Gymraeg. Iaith Geltaidd arall yw’r Wyddeleg (fel Llydaweg, Manaweg ac ati). Germanaidd yw’r Saesneg (fel Almaeneg, Ffrisieg, ieithoedd Sgandinafia ac ati).

Beth felly yw berf?

Yn amlwg, gair fel yfodd yw berf (‘drank’ yn Saesneg), a gellid ychwanegu yfais, yfaf, bwytais, bwytwn ac ati. Y mae berf, fel y bydd rhai ohonom yn ei gofio o wersi gramadeg yr ysgol, yn dynodi gweithred (h.y., yn yr enghreifftiau hyn, y weithred o yfed neu fwyta). Ond mae mwy na hynny: yn ogystal â dynodi’r weithred, bydd berf hefyd yn dweud wrthym ddau beth sylfaenol am y weithred honno:

  • pryd y digwyddodd y weithred (h.y. amser y ferf)
  • pwy a gyflawnodd y weithred (h.y. person y ferf)

[Y mae yn y Gymraeg hefyd ferfau amhersonol megis bwytir ac yfwyd, nad ydynt yn dynodi’r ‘pwy’, ond ystyriwn y rheiny mewn gwers arall.]

Y mae’r ferf yfais yn gorffen â’r llythrennau -ais. Y mae’r terfyniad hwn yn dweud wrthym mai ‘fi’ gyflawnodd y weithred, ac mai yn y gorffennol y digwyddodd y weithred (dywedwn mai person y ferf yw ‘fi’ ac amser y ferf yw’r gorffennol). Yn debyg, y mae’r ferf yfaf yn cynnwys y terfyniad -af sydd yn dynodi mai’r dyfodol yw amser y ferf, ac mai ‘fi’ yw’r ‘person’ (yr un fydd yn yfed).

Edrychwn ar yr ail frawddeg, gan eto ei chyfieithu i’r ddwy iaith arall:

Mae‘r cathod yn yfed llaeth.

na cait ag ól bainne.

The cats are a-drinking milk.

Gwelir eto’r ferf yn dod gyntaf yn y ddwy iaith Geltaidd (er y byddai’n anodd i siaradwyr y naill neu’r llall ddeall gweddill brawddeg eu cefndryd). Nid yw hynny’n wir yn achos y Saesneg. Yn bwysicach na hynny y tro hwn yw’r elfen sydd wedi ei thanlinellu: yn yfed. Beth yw hyn?

Yn aml iawn, bydd pobl yn dweud mai berfau yw geiriau megis yfed, bwyta, cerdded, ysgrifennu, sef y geiriau y byddwn yn chwilio amdanyn nhw yn y rhan fwyaf o eiriaduron. Eto, a bod yn fanwl gywir (ac er mwyn osgoi trafferthion maes o law), gwell yw sylweddoli nad berfau mo’r rhain yn y Gymraeg. Nid ydynt yn dynodi pwy na phryd y digwydd y weithred – yn hytrach, y cyfan y maen nhw’n ei wneud yw sôn am y weithred ei hun. Yn yr enghraifft uchod, y ferf yw mae, a honno sy’n rhoi’r wybodaeth arall inni. Hynny yw, yn y presennol y mae’r weithred yn digwydd, a’r cathod sydd yn gwneud y weithred. [Yr enw ffurfiol ar yr elfen ‘y cathod’ yw goddrych – edrychwn ar hynny mewn gwers arall.]

Nid yw’r gair ‘yfed’ yn ferf. Beth ydyw, felly? Yr ateb yw: berfenw. 

Nid yw’r berfenw yn llwyr gyfateb i unrhyw fath o air yn y Saesneg, er ei fod yn debyg iawn yn y frawddeg uchod i drinking. Yn aml iawn bydd pobl yn mynnu cyfieithu yfed fel to drink, ac mewn ffordd nid yw hynny’n hollol anghywir – eto, gall fod yn gamarweiniol.

Y mae’r berfenw yn gallu cyflawnu swyddogaeth y ddwy ffurf Saesneg hyn (drinking yn ogystal â to drink), ac mae hefyd yn gwneud pethau eraill. Rhaid cofio hyn: y mae cystrawen y Gymraeg (h.y., trefn geiriau, yn fras) yn wahanol i eiddo’r Saesneg. Am y tro, peidiwn â becso gormod am union natur y berfenw: edrychwn ar wahanol agweddau wrth fynd ymlaen. Y peth pwysicaf i’w gofio nawr yw’r hyn a ddywedwyd uchod: nid yw berfenw yn ferf. Yr ail beth yw nad yr iaith Saesneg mo’r iaith Gymraeg. Dylai hynny fod yn ddigon hawdd ei gofio!

Sylwch mai Saesneg ychydig yn hynafol a gafodd ei defnyddio yn y cyfieithiad uchod. Nid yw ffurfiau fel a-drinking yn cael eu defnyddio’n aml iawn heddiw, ond dyma ffordd ardderchog i ddechrau ystyried union swyddogaeth yr yn sydd yn rhagflaenu’r berfenw yn y Gymraeg. Mewn brawddegau fel hyn y mae rhaid wrth air fel yn (neu wedi, a’u tebyg), a da yw dechrau dod yn ymwybodol o’r elfen hon yn gynnar. Caiff ei ystyried yn fanwl mewn blogiad arall.

Diddorol yw nodi bod y Wyddeleg hefyd yn defnyddio geiryn tebyg: ag sydd yn chwarae rôl yr yn Gymraeg: unwaith eto, y mae cystrawen yr ieithoedd yn debyg hyd yn oed os nad yw’r union eiriau yn perthyn mewn ffordd amlwg.

GEIRFA

Dyma restr o’r termau gramadegol pwysicaf a ddefnyddir yn y blogiad hwn:

  • berf: gair megis yfaf, gwnaf, gwnes, bwytodd sydd yn dynodi 1) gweithred a hefyd 2) amser a 3) person y weithred honno.
  • terfyniad: llythrennau olaf berf sydd yn dynodi amser a pherson y ferf honno, e.e. -af, -ais, -odd.
  • berfenw: gair megis yfed, gwneud, bwyta, sydd yn dynodi gweithred heb ddynodi amser na pherson.
  • cystrawen: trefn geiriau a’r berthynas rhwng y geiriau mewn iaith benodol.
  • goddrych: goddrych berf yw’r enw am y sawl, neu’r peth, sydd yn cyflawni gweithred y ferf (ceir gwers arall i esbonio hyn).
  • berf amhersonol: berf nad oes iddi berson, ac nad yw ei goddrych felly’n echblyg (esbonnir hyn mewn gwers arall maes o law).
  • iaith Geltaidd: aelod o’r teulu ieithoedd sydd yn cynnwys yr ieithoedd Goedelig (Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a’r Fanaweg) a’r ieithoedd Brythonig (Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg). Y mae nifer o ieithoedd Celtaidd eraill wedi marw.
Advertisements

Safonau cyn dechrau

Nodyn byr iawn wrth fynd heibio am ‘safonau’ ac am ‘geidwadaeth’

Oes, mae tipyn o anghytuno a dadlau ymysg caredigion y Gymraeg ynghylch safonau a rheolau a chyweiriau ac ati. Ar y cyfan, iaith gymharol ‘safonol’ gaiff y sylw ar y blog hwn, ond ymdrechir i beidio â bod yn or-ffurfiol chwaith. Mae’n siŵr y caiff y blog ei feirniadu gan rai am ogwyddo i gyfeiriad y ‘ffurfiol’ a’r ‘ceidwadol’ – fe welwch o’r cyflwyniad hwn y math o iaith a gaiff sylw ar y cyfan – ac os na fydd hynny at ddant pawb, c’est la vie. Croesewir sylwadau.

Fy nghred waelodol innau yw mai un iaith yw’r Gymraeg ac mai un iaith ddylai’r Gymraeg fod. Oes, y mae amrywiaethau tafodieithol yn bodoli ac mae modd manteisio ar adnoddau sawl cywair o’r tra ffurfiol i’r tra anffurfiol. Y mae hyn oll yn arwydd o fywyd a chyfoeth yr iaith, ac ni ddylid ceisio lleihau’r cyfoeth hwnnw. Wedi dweud hynny, y mae hefyd ‘safonau’, ym mhob cywair a phob tafodiaith – a chan amlaf, yr un rhai ydyn nhw yn y bôn.

Rhwydd hynt i bawb ysgrifennu fel y myn ar Facebook a Twitter, a rhwydd hynt i bob un siarad fel y myn mewn sgwrs â ffrindiau yn y dafarn. Eto – oes, mae yna le i iaith sydd yn fwy gofalus a mwy ‘traddodiadol’ … mwy ‘ceidwadol’ os mynnwch – ac nid yn unig gan gyrff cyhoeddus, papurau newydd, athrawon, darlithwyr, gweinidogion ac ati. Yn un peth, mae angen i’r rhai sy’n dysgu’r iaith fedru mynd at ffynonellau safonol heb iddynt deimlo mai ffrî-ffor-ôl yw strwythur y Gymraeg a bod modd ei sillafu hi asiw-laic. Yn ail beth, gwneir anghyfiawnder â phobl ifainc drwy awgrymu iddynt bod modd ysgrifennu sut bynnag, a thrwy hynny leihau eu cyfleon gwaith; yn drydydd, mae angen (gyda sawl, sawl caveat) ‘[gadw] i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu.’

Mae Gwell Cymraeg Slac na Saesneg Slic yn arwyddair a glywir yn aml gan rai sy’n gwrthwynebu’r ‘plismyn iaith’ bondigrybwyll. Cyfieithiad yw hyn (gan Ifor ap Glyn, os cofiaf yn iawn) o’r Wyddeleg, Is fearr Gaeilge bhriste ná Béarla cliste, ac mae hyn yn wir, wrth gwrs, yn yr un modd ag ydyw ‘gwell llai o boen na llawer’ neu ‘gwell mynd yn ddall yfory na heddiw’. Dylai’r wrth-ddadl fod yn amlwg. Gweler y wefan hon am ymateb diddorol (yn Saesneg) i’r ymadrodd Gwyddeleg.

Oes, mae angen creadigrwydd ac arbrofi a datblygu, ac mae angen i bob cenhedlaeth wneud rhywfaint o gicio yn erbyn y tresi, dymchwel tyrrau a malu tabledi. Eto, dylai fod yn eithaf amlwg bod rhaid hefyd barchu traddodiad os ydym am draddodi’r iaith i’r dyfodol. Rhaid, wrth reswm, ganiatáu tipyn o ‘geidw-adaeth’ os am gadw iaith, a’i chadw’n iach. Mewn cyd-destunau penodol, oes, mae yna’r fath beth â gwall, ac mae yna’r fath beth â chamgymeriad. Ni ddylid ofni disgwyl gweld cywirdeb, ac ni ddylid ofni mynnu bod y cywiriadau yn cael eu gwneud. Y mae hyn yn fater o barch at yr iaith ac o barch atom ni’n hunain.

Mae ieithoedd yn newid – yn esblygu ac yn datblygu – a da yw hynny. Eto, mae llawer o’r newidiadau sy’n digwydd i’r Gymraeg yn digwydd oherwydd dylanwad y Saesneg. Clywir yn dragywydd yr alwad am ‘symleiddio’, ‘rhesymoli’ ac yn y blaen ond y gwir yw mai Seisnigo a llymhau a welir yn digwydd yn rhy aml o lawer, a rhaid gwahaniaethu rhwng y newidiadau sydd yn fuddiol a’r rhai sy’n cael eu hwrjio ar yr iaith diolch i ddylanwad Lloegr-ac-America.

Er mwyn medru ystyried a yw rhywbeth yn ‘anghywir’ ai peidio, manteisiol yw meddu nid yn unig ar glust fain a silff lyfrau dda, ond hefyd ar ychydig o wybodaeth ieithyddol. Gan amlaf, mae’n wir, clywir y Gymraeg gorau (ac fe’i gwelir) gan bobl heb arlliw o ieithwedd y gramadegydd ar eu genau; eto, da o bryd i’w gilydd yw medru egluro rheolau (honedig ai peidio).

Gobeithio y bydd y blogiadau achlysurol hyn yn gyfraniad i ambell sgwrs.